Mae diweithdra yn parhau i ddisgyn yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddara’.

Yn ystod tri mis cyntaf eleni mi roedd 4.4% o’r boblogaeth yn ddi-waith, sy’n gwymp o 0.6% o gymharu â thri mis diwetha’ y llynedd.

Yn ogystal, mae nifer y bobol sydd yn gweithio’n parhau i gynyddu. Roedd 73.7% o Gymry yn gweithio rhwng Ionawr a Mawrth, sy’n dwf o 0.7% o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Er hyn i gyd mae lefel diweithdra tros y Deyrnas Unedig oll yn parhau’n is nag yng Nghymru (4.2%), ac mae nifer y bobol sydd mewn gwaith dros wledydd Prydain oll (75.6%) yn uwch.

Gogledd Iwerddon wnaeth brofi’r cwymp mwyaf o ran lefel eu diweithdra (0.8%), gyda Chymru a gorllewin canolbarth Lloegr yn gydradd ail.