Mae cynllun newydd ar fin cael ei lansio yn ardal Bae Abertawe, a fydd yn galluogi pobol i fenthyg beiciau am wahanol gyfnodau o amser.
Mi fydd ‘Beiciau Santander Abertawe’, sef cynllun sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe, ar gael o Orffennaf 5 ymlaen.
Mae’r cynllun wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru, a’r nod yw lleihau problemau traffig a pharcio, ynghyd â gwella iechyd a lles pobol.
Fe enillodd y Brifysgol gystadleuaeth Her Prifysgolion Beiciau Santander fis Rhagfyr y llynedd, gan ennill £100,000 o gyllid ar gyfer lansio’r cynllun.
Fe wnaeth nifer o unigolion a sefydliadau lleol rhoi cefnogaeth ariannol i’r fenter hefyd.
Rhentu beiciau
Mi fydd 50 o feiciau ar gael i bobol, a hynny mewn gwahanol fannau ledled Bae Abertawe, gan gynnwys:
- Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe;
- Y Ganolfan Ddinesig;
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau;
- Parcio a Theithio Ffordd Fabian;
- Campws y Bae Prifysgol Abertawe.
Bydd y beiciau, sy’n cael ei darparu gan y cwmni Nextbike, ar gael i’w benthyg ar gost o £1 am hanner awr, a chyfanswm o £10 am ddiwrnod cyfan.
“Rhoi’r cynllun ar waith”
Yn ôl Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Abertawe, mae’n gobeithio y bydd modd ymestyn y cynllun “gyda chymorth y gymuned” wrth i’r cynllun ddatblygu.
“Mae Abertawe wedi bod mor gefnogol i’r cynllun rhannu beiciau,” meddai. “Fe wnaeth pobol addo cyfrannu arian at y cynllun a llwyddon ni i ennill y gystadleuaeth, ac yn awr, byddwn yn rhoi’r cynllun ar waith.”