Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am eu rhybudd y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i wella safon trenau yng Nghymru.

Dyw hynny “ddim yn ddigon da” meddai llefarydd y blaid yng Nghymru ar yr economi, Russell George, wrth i’r Llywodraeth baratoi i ddewis cwmni newydd i gymryd y drwydded i gynnal y system.

Ddoe fe ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, na fyddai hynny’n arwain at welliant ar unwaith ac y gallai gymryd cymaint â phedair blynedd cyn y bydd teithwyr yn gweld gwahaniaeth go iawn.

‘Siomi pobol’

Roedd Russell George yn cyhuddo’r Llywodraeth o siomi pobol ar ôl addo oes newydd i deithio ar y trên pan fydd cwmni arall yn disodli Arriva, sy’n cynnal y gwasanaethau ar hyn o bryd.

“Rhaid i’r drwydded newydd wella safonau rheilffyrdd ledled Cymru a dyw’r gostwng yma ar ddisgwyliadau ddim yn ddigon da,” meddai.

“Mae teithwyr, yn ddigon teg, yn disgwyl i’r drwydded gywiro’r diffygion sydd wedi plagio defnyddwyr trenau yng Nghymru ers blynyddoedd.”

Yn ôl y Llywodraeth, fe fydd hi’n cymryd amser i’r cwmni newydd newid y peiriannau a’r cerbydau – rhai ohonyn nhw gymaint â 40 oed.