Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi “croesawu” ail-enwi ail Bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’, yn ôl llythyron sydd newydd eu cyhoeddi.

Ddechrau’r mis diwethaf, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y bydd yr ail bont dros afon Hafren yn cael ei enwi ar ôl y Tywysog Charles, a hynny er mwyn dynodi ei “[dd]egawdau o wasanaeth ffyddlon i Gymru”.

Fe arweiniodd y penderfyniad gryn wrthwynebiad, gyda deiseb ac arni fwy na 37,000 o enwau yn galw ar Alun Cairns i ailystyried.

Ar y pryd, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd Carwyn Jones wedi gwrthwynebu’r ailenwi pan ysgrifennodd Alun Cairns ato y llynedd.

Y llythyron

Erbyn hyn, mae llythyron y ddau wleidydd wedi’u rhyddhau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

Mewn llythyr yn ddyddiedig Medi 24, fe ofynnodd Alun Cairns am ymateb Carwyn Jones ynglŷn â llythyr blaenorol ganddo a oedd yn trafod y posibilrwydd o ailenwi’r bont ar ôl mab hynaf y Frenhines.

Ychwanegodd mai’r “farn ers sbel” yw nad yw’r enw presennol yn un “addas ar gyfer y brif fynedfa i Gymru o dde Cymru.”

Mewn ymateb i’r llythyr hwn wedyn, a hynny ar Ragfyr 6, fe ddywedodd Carwyn Jones ei fod yn “croesawu’r syniad”, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i “gefnogi’r cynnig”.

“Bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig ac rwy’n barod i fod yn rhan o’r seremoni ailenwi ffurfiol,” meddai Carwyn Jones.

Fe gafodd ail Bont Hafren ei hagor gan y Tywysog Charles yn 1996, ac mae disgwyl y bydd yn bresennol yn y seremoni ailenwi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.