Mae menter gymunedol ger Caernarfon yn bwriadu codi rhagor o arian trwy werthu cadair o arwisgiad y Tywysog Siarl yn 1969.
Mae’r grŵp o Benygroes wedi llwyddo i godi dros £70,000, ac yn bwriadu troi hen dŷ a siop yno – Siop Griffiths – yn gaffi, canolfan i bobol ifanc a llety.
Ddydd Llun (Mai 14), mi fydd y grŵp yn dechrau ar y gwaith o droi’r siop yn gaffi a’i nod yw cwblhau’r gwaith erbyn mis Hydref.
Ond, mae angen rhagor o arian am weddill y gwaith adnewyddu , a gobaith y grŵp yw y bydd y teulu brenhinol yn medru’u helpu’n ddiarwybod.
“Dydyn ni ddim wedi holi Charles yn bersonol, ond dwi’n siŵr na fyddai ots ganddo ein bod yn gwerthu’r gadair,” meddai aelod o fwrdd Siop Griffiths, Angharad Tomos.
“Rydym angen bob ceiniog i helpu’r fenter gymunedol.”
“Darn o hanes”
Mi wnaeth gwirfoddolwyr o’r grŵp ddod o hyd i’r gadair mewn bocs wrth glirio’r tŷ – adeilad sydd drws nesa’ i’r hen siop.
Perchennog y tŷ oedd T Elwyn Griffiths – neu ‘Llenyn’ i’r trigolion lleol – ac fe fu’n byw yno am tua 80 mlynedd.
“Mae’r tŷ yn ddarn o hanes, achos gadawodd y perchennog, Llenyn, y lle yn union fel ag yr oedd pan aeth i gartref henoed yn 2005, flwyddyn cyn ei farw” meddai Angharad Tomos. Doedd fawr wedi newid ers i’w rieni ac yntau ddod yno i fyw ym 1925.”
Ychwanegodd: “Roedd o’n weithgar yn y pentref, yn flaenor yn Soar, yn actio mewn dramâu, ac yn darlithio ar longau cruise y P&O.
“Ond wydden ni ddim o’r blaen ei fod yn dipyn o frenhinwr. Yr hyn a wna’r gadair yn fwy diddorol yw’r toriadau papur newydd sydd efo’r gadair.”
Roedd y gadair hon ymhlith casgliad a gafodd eu cynllunio ar gyfer gwesteion arwisgiad Caernarfon yn 1969.
Cafodd y cadeiriau eiconig eu cynllunio gan frawd yng nghyfraith y Tywysog Charles ar y pryd, Tony Armstrong Jones, a oedd yn dod o’r Bontnewydd, dair milltir o Benygroes.
Dyla unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu a’r grŵp Dyffryn Nantlle 2020 https://www.facebook.com/dn2020/posts/2170392616516836