Mae’r heddlu yng Nghasnewydd wedi rhybuddio aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â chyffur cryf sy’n cael ei werthu yn y ddinas ar hyn o bryd.

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi’r rhybudd yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau o bobol yn gwerthu ac yn defnyddio’r sylwedd sy’n cael ei adnabod fel China White.

Yn ôl yr heddlu, mae’r cyffur dosbarth A, sy’n deillio o fentanyl, yn cael ei werthu yng nghanol y ddinas a Philgwenlli.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y cyffur brown-golau ei liw yn fwy na 100 gwaith yn gryfach na heroin stryd, ac mae swyddogion wedi canfod bod y sylwedd yn cael ei werthu yn ei le, a hynny heb yn wybod i’w ddefnyddwyr.

“Difrifol iawn”

“Mae fentanyl, fel sylwedd gwenwynig, wedi cael ei gysylltu â chynnydd mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

“Mae Heddlu Gwent o’r farn bod yr adroddiadau hyn yn ddifrifol iawn, ac mae’n annog unrhyw aelod o’r cyhoedd – yn arbennig defnyddwyr heroin – i fod yn ymwybodol o’r perygl ychwanegol sy’n gysylltiedig â China White.”

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cyffur i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.