Mae cynlluniau ar y gweill gan Lywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau bod gan feddygon teulu yswiriant rhag costau esgeulustod clinigol.

Bydd y cynlluniau, a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019, ar gael i’r holl ddoctoriaid ac ymarferwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pryderon am y cynnydd mewn costau indemniad, a all arwain at rai meddygon y troi oddi wrth y proffesiwn.

Mae’r cynlluniau yn debyg i’r rhai sydd wedi’u cyhoeddi yn Lloegr, ac fe fydd yn sicrhau nad yw doctoriaid yng Nghymru o dan anfantais o gymharu â’r rhai yn Lloegr.

Fe fydd hefyd yn golygu na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio rhwng y ddwy wlad.

“Tawelu meddyliau”

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd ym Mae Caerdydd, Vaughan Gething, mae Llywodraeth Cymru am gynnig “ateb hirdymor a chynaliadwy” i bryderon meddygon ynghylch costau indemniad.

“Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon meddygon teulu,” meddai. “Rydyn ni’n deall yr effaith mae costau cynyddol indemniad proffesiynol yn ei chael ar y gweithlu a’r potensial ar gyfer pwysau yn y dyfodol pe bai gwahanol arferion indemniad ar waith yng Nghymru a Lloegr…”

“Mae’r [cynlluniau hyn] yn arwydd pellach o’n hymrwymiad i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, ac i ddenu mwy o feddygon teulu i weithio yma, gan ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

“Gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn tawelu meddyliau meddygon sy’n gweithio mor galed yma.”