Mae canolfan digwyddiadau byw Tramshed yng Nghaerdydd wedi dileu neges ar Twitter yn hysbysebu gemau tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Roedd yr hysbyseb yn galw ar gwsmeriaid i fynd yno i wylio’r gemau yn fyw ym mis Mehefin, wrth i Loegr herio Tiwnisia, Panama a Gwlad Belg. Roedden nhw’n hysbyseb cynigion arbennig ar gyfer y gemau.

Ymateb negyddol

Ond llai na dwy awr ar ôl postio’r neges wreiddiol, cafodd ei dileu yn dilyn cyfres o sylwadau negyddol gan gefnogwyr Cymru.

Ond mae un neges i’w gweld o hyd yn cefnogi’r lleoliad.