Wrth i Glwb Pêl-droed Caerdydd gynnal parêd i ddathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, fe fydd y brifddinas yn ddi-geir am ddiwrnod heddiw.
Mae gofyn i gefnogwyr sy’n mynd i’r parêd, sy’n dechrau am 3 o’r gloch, ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan fod nifer o ffyrdd ynghau.
Mae’r parêd yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd am 3 o’r gloch ac yn cyrraedd y castell rhwng 4.30 a 5 o’r gloch.
Fe fu rhai ffyrdd ynghau ers 5 o’r gloch fore heddiw, wrth i Gyngor Caerdydd asesu ansawdd yr aer gydol y dydd.
Mae rhybudd i deithwyr y bydd bysus yn dilyn llwybrau gwahanol yn ystod y dydd.