Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Ngheinewydd heddiw i geisio achub gwasanaeth bad achub y dref.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yng Nghapel y Tabernacl am 2 o’r gloch fydd Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake, Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones a’r Cynghorydd Elizabeth Evans.

Daeth cadarnhad gan yr RNLI haf diwethaf fod cynlluniau ar y gweill i ddisodli bad achub pob tywydd y dref gyda bad Atlantic 85 llai o faint erbyn 2020.

Ond mae pryderon na fydd modd defnyddio’r bad newydd mewn tywydd garw – er bod yr RNLI yn mynnu i’r gwrthwyneb. Mae’n golygu y bydd 70 milltir o’r arfordir heb fad pob tywydd.

Yn ôl amcangyfrifon, mae’r cynlluniau’n golygu y gallai gymryd hyd at awr a hanner i’r bad achub agosaf gyrraedd Ceinewydd mewn tywydd garw.

Hyd yn hyn, mae mwy na 20,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Cafodd y mater ei grybwyll gan Ben Lake yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan yn ddiweddar.