Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth bwyllgor Llafur ei etholaeth ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i fod yn Aelod Cynulliad yn 2021.

Bu’r Prif Weinidog yn Aelod tros Ben-y-bont ar Ogwr ers cychwyn y Cynulliad yn 1999.

Yn y gynhadledd Lafur ddiweddar yn Llandudno, fe gyhoeddodd ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru eleni.

Heno mae wedi cadarnhau na fydd yn rhoi ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd Llafur adeg yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2021.

“Mae wedi bod yr anrhydedd mwyaf i mi fod yn Brif Weinidog Cymru, ond bu yn bleser neilltuol cael cynrychioli fy milltir sgwâr am gyfnod a fydd yn 22 o flynyddoedd erbyn 2021,” meddai Carwyn Jones.

“Byddaf wastad yn trysori’r ffaith i mi fod y cyntaf i gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr yn senedd etholedig cyntaf Cymru.”