Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dyblu eu nawdd ariannol i un o ddigwyddiadau Cybiau Ffermwyr Ifanc Meirionnydd eleni.

Daw hyn yn sgil y toriadau diweddara’ i wasanaethau ieuenctid gan Gyngor Sir Gwynedd, lle cafodd ei benderfynu y byddan nhw’n torri’r grant blynyddol o £20,000 i Glybiau Ffermwyr Ifanc Meirionnydd, ynghyd â’r grant £16,000 i ffederasiwn Eryri.

Arweiniodd hyn at bryderon ymhlith swyddogion y mudiad, gydag un yn dweud y bydd angen “ailstrwythuro” sut mae’r mudiad yn gwario ei arian.

Ond ar drothwy rali flynyddol y ffederasiwn, a fydd yn cael ei gynnal ar fferm Ty’n Ffridd yn Sarnau ar Fehefin 9, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol.

£400 yn ychwanegol

 Yn ôl Huw Jones, un o brif swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd, fe fydd nawdd ariannol yr undeb i’r digwyddiad yn dyblu i £400.

“Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobol ifanc i ddod yn ffermwyr llwyddiannus, yn unigolion hyderus, cyfranwyr effeithiol ac yn ddinasyddion cyfrifol, ddim yn cael ei ganmol digon,” meddai.

“Pe bawn ni ddim ond yn gallu potelu cyfrinach y Clybiau Ffermwyr Ifanc a’i chyflwyno i’n trefi a’n dinasoedd mawr, yna dw i’n siŵr y byddwn ni’n cael gwared ar nifer o’n problemau cymdeithasol.”