Mae pump o ddynion sydd wedi eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i fyfyriwr yn Aberystwyth ddechrau’r flwyddyn, wedi pledio’n ddieuog.
Fe gafodd Ifan Owens o Gaerdydd ei ddarganfod yn anymwybodol ar Stryd Fawr y dre’ yn ystod oriau mân dydd Sul ar Ionawr 14.
Bu’r myfyriwr 19 oed mewn coma am bedair wythnos yn dilyn y digwyddiad, a hynny wrth iddo dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Ers y digwyddiad, fe gafodd pum dyn eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.
Y pump yw:
- Billy Michael Valentine, 19 oed;
- David Robert Lloyd, 25 oed;
- Lee Andersen, 20 oed;
- Andrew Raymond John Scott, 23 oed;
- Michael Jones, 24 oed.
Achos llys
Fe ymddangosodd y pump yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Gwener, Mai 11), gyda phob un ohonyn nhw’n datgan eu bod yn ddieuog.
Ond fe wnaeth Billy Michael Valentine, ar y llaw arall, bledio’n euog i gyhuddiad ar wahân o achosi niwed corfforol difrifol.
Fe fydd yr achos yn parhau ar Awst 6.