Does dim bwriad gan Dafydd Elis-Thomas roi’r gorau i fod yn Aelod Cynulliad  pan fydd Carwyn Jones yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog ddiwedd y flwyddyn.

Dyna y mae’r Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd wedi dweud wrth golwg360 yn dilyn sïon y gallai benderfynu ymddeol gan achosi isetholiad yn yr etholaeth.

Yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, does dim bwriad ganddo “ymddiswyddo nac ymddeol” am ei fod yn “parhau i weithredu” ar addewidion i’w etholwyr.

Dywedodd fod unrhyw sïon yn dweud fel arall yn “gamarweiniol”.

Parhau yn y Llywodraeth?

Ar hyn o bryd, mae’r AC yn rhan o Lywodraeth Lafur Cymru, ac yntau yn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cafodd y dyrchafiad hwnnw gan y Prif Weinidog presennol ym mis Tachwedd, wedi iddo adael grŵp Plaid Cymru’r flwyddyn gynt a dod yn Aelod Cynulliad Annibynnol.

Ers i Carwyn Jones gyhoeddi ei fwriad i gamu o’r neilltu yn yr hydref, mae cwestiynau wedi codi dros le Dafydd Elis-Thomas o fewn y Llywodraeth pan fydd gan Gymru Brif Weinidog newydd.

Wrth ymateb i ymholiadau golwg360, dywed yr Aelod Cynulliad mai penderfyniad olynydd Carwyn Jones fydd hynny.

 “Mater i Brif Weinidog nesaf Cymru bydd sefydlu ei llywodraeth neu ei lywodraeth newydd,” meddai Dafydd Elis-Thomas mewn datganiad.

“Gan fy mod yn parhau i weithredu a dilyn yr addewidion a wneuthum i etholwyr Dwyfor Meirionnydd yn yr etholiad diwethaf, nid wyf yn bwriadu ymddiswyddo nac ymddeol.

“Nid wyf am ymateb ymhellach i unrhyw sïon camarweiniol.”