Bu farw Kenneth ‘Kenny’ Evans o’r Wladfa, y dyn a gafodd ei gadeirio yn lle Dic Jones pan enillodd Gadair Eisteddfod y Canmlwyddiant yn 1965.

Roedd y ffermwr o Drofa Dulog yn ardal y Dyffryn, Patagonia yn 88 oed ac wedi bod mewn cartref henoed yn Nhrelew ers blynyddoedd, ac yno y bu farw heddiw (dydd Iau, Mai 10).

Yn ôl Jean Jones, gweddw Dic Jones, mae’n cofio Kenny Evans fel “dyn tawel ac annwyl iawn”. Y tro cyntaf iddi gwrdd â’r gŵr o’r Wladfa oedd yn nhafarn y Pentre Arms yn Llangrannog yn y 1960au.

“Dw i’n cofio ei gyfarfod gynta’ yn y Pentre Arms gydag Alun Cilie, achos wedd e wedi dod am wâc i Gymru am chwe mis,” meddai wrth golwg360.

“A dw i’n meddwl mai Cassie Davies [o Dregaron] ffeindiodd le iddo fe gydag Alun yn y Cilie, er mwyn iddo gael bod gyda Chymry, ac roedd yn arferiad gyda Bois y Cilie a Dic a’r criw a finne i gwrdd yn y Pentre Arms bob nos Sadwrn.”

Cyfarfod eto

Yr adnabyddiaeth gyntaf hon, meddai Jean Jones wedyn, oedd y rheswm pam ofynnodd Dic Jones i Kenny Evans i’w gynrychioli yn yr eisteddfod ym Mhatagonia yn 1965.

Ond wnaethon nhw ddim cyfarfod eto tan 2008, a hynny yn ystod ymweliad Dic Jones â’r Wladfa yn rhinwedd ei swydd yn Archdderwydd Cymru.

“Mi gethon ni groeso mowr ganddyn nhw pan ethon ni draw,” meddai Jean Jones, wrth sôn am deulu Kenny Evans.

“Da’th Kenny ddim mas i’r Eisteddfod o gwbwl, dim ond dod mas i gael te yng nghartre’ ei chwaer…

“Doedd e ddim wedi altro dim – roedd e heb heneiddio. Roedd rhyw wmed ffres gydag e.”

Kenny Evans yn sefyll ar ei draed i gael ei gadeirio yn Eisteddfod y Wladfa 1965