Dylai “hwb newyddion” gael ei sefydlu fel bod cyhoeddiadau Cymraeg yn medru cyhoeddi eu deunydd mewn un man.

Dyna yw un o argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn ei adroddiad diweddaraf ‘Ymchwiliad i Newyddiaduriaeth Newyddion yng Nghymru’.

Byddai’r BBC yn cael eu heithrio o’r “hwb” yma, a dim ond cyhoeddiadau Cymraeg sy’n cael eu hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru, fyddai’n medru bod yn rhan ohono.

Daw’r argymhelliad ar sail tystiolaeth Ifan Morgan Jones, golygydd gwefan Nation.Cymru, sy’n pryderu am ddiffyg adnoddau a gallu newyddiadurwyr Cymraeg i dwrio’n ddyfnach.

Awgrym yr adroddiad yw y byddai’r “hwb” yma ar ffurf ddigidol.

“Rhannu cynnwys”

“Rydym yn cytuno ag awgrym Ifan Morgan Jones o un hwb Cymraeg,” meddai’r pwyllgor yn eu hadroddiad.

“Byddai hyn nid yn unig o fudd i sefydliadau Cymraeg presennol, trwy ganiatáu iddynt rannu cynnwys, ond gallai hefyd annog sefydliadau eraill i greu cynnwys Cymraeg ar gyfer yr hwb.”

Yn ei aadroddiad mae’r pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ariannu’r wasg yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â “diffyg plwraliaeth”.