Roedd dyn busnes o’r Bala yn “gobsmacked” pan gytunodd actor Hollywood i fodelu crys-t newydd â neges am annibyniaeth Catalwnia.

Mae Wyn ap Gwilym, perchennog cwmni crysau-t Cowbois, wedi llwyddo i gael yr actor a’r ymgyrchydd, Michael Sheen, i gael tynnu ei lun yn un o’i dillad newydd.

Ond sut wnaeth cwmni o gefn gwlad Cymru gael gafael ar actor fyd enwog i fodelu dilledyn? Yn ôl, Wyn ap Gwilym, fe ddigwyddodd yr holl beth ar hap…

Y llun

Fe sefydlwyd y berthynas rhwng y cwmni a’r actor rhyw dair blynedd yn ôl pan grëodd Cowbois grysau â dyfyniadau’r actor arnyn nhw.

“Dyna ydi gwraidd y peth,” meddai Wyn ap Gwilym. “Nid y ffaith ei fod o’n actor enwog, jest bod o wedi gwneud yr araith anhygoel yma yn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd…”

Ac un diwrnod, heb rybudd, mi ymddangosodd yr actor yn Y Bala. Fe glywodd Wyn ap Gwilym am hyn, a neidiodd ar y cyfle, gan wahodd yr actor i gasglu crys â’r araith arno.

Ar ôl cael “sgwrs eitha’ hir” ag ef, gofynnodd a oedd unrhyw obaith o gael llun. Mi gytunodd yr actor, a chafodd y llun ei dynnu “yn y fan a’r lle”.

“Mae o’n ymwybodol o’r wleidyddiaeth y tu ôl i’r crysau,” meddai Wyn ap Gwilym eto. “Aeth o â chrys-t Tryweryn efo fo… Roedd o’n amlwg yn cytuno â safbwynt y crys Catalwnia hefyd.”

Pêl-droed

Mae’r cwmni wedi creu crysau â Chatalaneg arnyn nhw yn y gorffennol, ac fe gafodd crysau eu creu ar gyfer refferendwm annibyniaeth Catalwnia ar Hydref 1 y llynedd.

Ond digwyddiad penodol mewn gêm bêl-droed oedd y sbardun tu ôl y crys diweddaraf.

“Be ddaru ysgogi hwn, oedd beth wnaeth heddlu Sbaen efo cefnogwyr pêl-droed Barcelona yn mynd i gêm gwpan Real Madrid,” meddai Wyn ap Gwilym.

“Roedden nhw’n eu gorfodi i dynnu eu crysau i ffwrdd. Y cwbwl oedden nhw’n gwneud oedd gwisgo crysau melyn.”

Gobaith Wyn ap Gwilym yw bydd cefnogwyr Cymru yn gwisgo’r crysau yma yn ystod y gêm gyfeillgar â Sbaen ym mis Hydref eleni.