Mi fydd £22.5m yn ychwanegol o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i helpu pobol yng Nghymru i wella eu sgiliau a’u rhagolygon cyflogaeth, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mi fydd y cyllid ychwanegol hwn, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ar Ddiwrnod Ewrop (dydd Mercher, Mai 9), yn golygu y bydd tuag 8,000 o bobol yn gallu derbyn cefnogaeth a hyfforddiant.

Mae’r hwb ariannol yn ychwanegol i’r mwy na £650m o arian yr Undeb Ewropeaidd sydd eisoes wedi’i fuddsoddi mewn hyfforddiant a gwaith yng Nghymru – gyda mwy na £200m yn cefnogi pobol ifanc.

“Cymru wedi elwa’n ddirfawr”

“Dw i wrth fy modd yn gweld bod cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu buddsoddi mewn prosiectau i helpu pobol i ennill y sgiliau y mae arnynt eu hangen i gyflawni eu potensial,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Mae Cymru wedi elwa’n ddirfawr o raglenni ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd ers 20 mlynedd, ac mae’r prosiectau hyn yn tanlinellu mor bwysig ydyw i Gymru i gael cyllid gan y Deyrnas Unedig pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

Y prosiectau

Ymhlith y prosiectau fydd yn elwa fydd:

  • Inspire2Work – sy’n cefnogi a hyfforddi pobo ifanc yn ardaloedd Penybont-ar-Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tydfil a Torfaen;
  • Trac 11-24 sy’n cefnogi pobol ifanc ledled gogledd Cymru i aros ym myd addysg;
  • Achieve through Work Experience sy’n darparu profiad gwaith i bobol ifanc ledled Cymru;
  • Agile Nation II – sy’n helpu merched i ddatblygu sgiliau newydd.