Fe fydd canolfan sy’n arddangos ac yn gwerthu cwiltiau Cymreig yng Ngheredigion yn cau ddiwedd y flwyddyn.

Mi gafodd y Ganolfan Gwiltiau Cymreig ei sefydlu yn Llanbedr Pont Steffan yn 2009, a hynny gan Jen Jones sydd wedi bod yn casglu’r cwiltiau gwlân ers 40 mlynedd.

Nod y ganolfan yw codi’r ymwybyddiaeth am gwiltiau Cymreig, ac fe gafodd ei hagor yn swyddogol yn 2010 gan y Tywysog Charles a Duges Cernyw.

Ond ar drothwy ei phen-blwydd yn 80 oed, mae Jen Jones wedi penderfynu cau’r ganolfan – sy’n cynnwys arddangosfa, siop a chaffi – er mwyn canolbwyntio ar hyrwyddo cwiltiau Cymreig ledled y byd.

Teithio’r byd

“Mae wedi cael eu gwahodd i arddangos mewn nifer o leoliadau rhyngwladol o’r blaen, ond mae wedi methu â derbyn y gwahoddiadau hyn oherwydd ei hymrwymiad i redeg y Ganolfan Gwiltiau Cymreig,” meddai llefarydd ar ran Jen Jones.

“Mae’n hynod falch o’r hyn mae wedi’u cyflawni wrth i’r Ganolfan ddenu ymwelwyr o ledled y byd i hen dre’ Llanbedr Pont Steffan i weld cwiltiau Cymreig.

“Mae Jen bellach yn edrych ymlaen at ei cham nesaf, a fydd yn ei gweld yn mynd â’i chasgliad unigryw o gwiltiau Cymreig allan o Gymru i deithio’r byd.”

Cyn cau’r ganolfan, fe fydd yr arddangosfa olaf, dan y teitl ‘Nos Da, Good Night’, yn cael ei chynnal hyd nes Tachwedd 10.