Mae newyddiadurwr a’r awdur wedi ennill ei bedwaredd coron yn eisteddfod daleithiol teulu James ym Mhontrhydfendigaid dros y Sul.

Lyn Ebenezer oedd yn fuddugol ddydd Sadwrn (Mai 5) o blith 15 o ymgeiswyr am y wobr, gyda cherdd rydd yn trafod dyfodol cefn gwlad.

Yn ystod egwyl yn nhalwrn y beirdd yr wyl nos Sul (Mai 6) fe fu’n darllen y gerdd fuddugol gerbron cynulleidfa niferus ym mar Pafiliwn y Bont.

Hen wr hanner dall a byddar ydi prif gymeriad y gerdd, sy’n methu symud o’i gadair ac yn methu cyfrannu dim at fywyd ei bentref, gyda phob gweithgaredd yn digwydd y tu allan i ffenestr ystafell ei dyddyn. Mae dyfodol cefn gwlad yn nwylo ffermwyr ifanc, meddai’r bardd.