Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddyn yn ei ugeiniau gael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ychydig ar ôl 2pm prynhawn dydd Sul (6 Mai).

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr. Ni chafodd yr ail feiciwr modur ei anafu.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu a allai fod wedi gweld y beicwyr modur ychydig cyn y gwrthdrawiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod W058707.