Mae bachgen 11 oed o ardal Tregaron wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol a ddioddefodd mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd fore ddoe.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau ei enw fel Tristan Silver, ac yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad ger pentref Olmarch ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Tregaron rywbryd cyn 8.50am.

Roedd y bachgen yn teithio i gyfeiriad Llanbed mewn car Subaru Legacy Outback glas gyda dynes 28 oed a phlentyn arall pan ddigwyddodd y trychineb.

Aed â’i gyd-deithwyr hefyd i’r ysbyty, er nad yw eu hanafiadau nhw yn rhai sy’n peryglu eu bywydau.

Dioddefodd gyrrwr a theithiwr y cerbyd arall, Mitsubishi Shogun 4X4 du a oedd yn tynnu trelar da byw wrth deithio tua Tregaron, fân anafiadau.

Gall unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd, gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Ceredigion ar 101 gan nodi cyfeirnod 54, Mai 4, 2018.