Rhaglen ddogfen o Gymru sy’n ymdrin â thrychineb Hillsborough oedd enillydd prif wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Mae Hillsborough: Yr Hunllef Hir yn ymdrin â straeon pobl fu’n dyst i un o drychinebau mwya’r 30 mlynedd ddiwethaf, pan gafodd 96 o gefnogwyr eu lladd mewn gwasgfa yn stadiwm Hillsborough, Sheffield, wrth wylio rownd derfynol Cwpan FA ar 15 Ebrill 1989.

Y cynhyrchiad gan gwmni Rondo Media oedd dewis y panel o feirniaid o blith yr holl raglenni a chyfresi ar restr enwebiadau’r ŵyl eleni a chafodd ei chyflwyno neithiwr, ar noson ola’r ŵyl a gafodd ei chynnal eleni yn Llanelli.

Yn y rhaglen, roedd y cyflwynydd a’r cynhyrchydd teledu Dylan Llewelyn yn trafod yn agored effaith y diwrnod hwnnw arno ef a chefnogwyr eraill fu’n dyst i’r drychineb, a’r frwydr hir am gyfiawnder.

Dioddefwyr o Gymru

“Mae hanes Hillsborough a 96 fu farw yn gyfarwydd i lawer, ac mae pawb ohonon ni’n cydymdeimlo am eu colled a’u dioddefaint nhw,” meddai.

“Ond mae’r effaith yn mynd ymhell y tu hwnt i glwb Lerpwl, ac roedd dweud hanes y cefnogwyr o ogledd Cymru yn rhoi ongl newydd nad oedd wedi ei gweld o’r blaen. Roedd hynny yn bwysig, ac fel tîm bychan fu’n gweithio ar y rhaglen, fe wnaethom roi popeth iddi, er mwyn trin â’r pwnc a’r stori ddynol gyda sensitifrwydd.

“Mae ein diolch yn fawr i’r bobl hynny wnaeth rannu eu profiadau a’u teimladau yn y rhaglen am eu dewrder a’u gonestrwydd.

“Dwi’n credu mai’r rhesywm yr enillodd y rhaglen y wobr oherwydd yr ogwydd Cymraeg yn eu stori nhw nad oedd wedi cael cyfle i’w hadrodd. Bu’r drws ar gau am rhy hir a dwi’n gobeithio ein bod wedi llwyddo i helpu y bobl hynny. Mae’n daith y wnawn ni byth ei hanghofio.”

Roedd y brif wobr hon ymhlith pedair gwobr i raglenni a chyfresi S4C yn yr Ŵyl eleni. Un o’r enillwyr eraill yn y seremoni neithiwr oedd y ddrama drosedd boblogaidd Bang (Joio), a ddaeth i’r brig am yng nghategori y Gyfres Ddrama orau. Yn gynharach yn yr wythnos, enillodd Y Salon (Boom Cymru) wobr am y gyfres Adloniant Orau, a daeth yr arbrawf cymdeithasol mewn gofal rhwng cenedlaethau, Hen Blant Bach (Darlun), i’r brig am y rhaglen Adloniant Ffeithiol orau.