Mae actor ac ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn alcoholiaeth yn cyhuddo papur newydd The Sun o fod yn “gwbwl anghyfrifol” yn ei ymdriniaeth o hanes y cyflwynydd Ant McPartlin.

Yn ôl Wynford Ellis Owen, sefydlydd gwasanaeth Stafell Fyw Caerdydd i rai sy’n ymladd alcoholiaeth, roedd stori ar dudalen flaen y Sun yn creu’r argraff fod alcoholiaeth yn gyflwr y gellir cael iachâd llwyr ohono.

Roedd llun o Ant McPartlin, hanner y bartneriaeth ‘Ant & Dec’ sy’n cael ei gyhuddo o yfed a gyrru, yn edrych yn holliach ar ôl mis mewn clinig ‘rehab’.

“Roedd y stori y gwnaethoch chi ei chyhoeddi fel petai’n awgrymu fod trawsnewidiad llwyr wedi digwydd ym mywyd Ant ar ôl mis mewn ‘rehab’,” meddai Wynford Ellis Owen mewn llythyr agored at olygydd The Sun.

“Does ond angen edrych ar straeon Charles Kennedy a George Best i weld peryglon hyn; os na byddwch chi’n ofalus fe fydd eich adroddiadau’n cyfrannu at dynged tebyg i Ant.

“Mae alcoholiaeth yn salwch peryglus sy’n lladd miloedd o bobol yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.”