Mae plismyn yng Nghaernarfon wedi derbyn rhagor o bwerau dros dro i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref.
Gan ddechrau am bump o’r gloch brynhawn heddiw (Mai 4), mi fydd ‘gorchymyn gwasgaru’ mewn grym am hyd at 48 awr.
Mae hyn yn golygu y bydd gan yr heddlu’r hawl i ofyn i unigolion amheus adael rhannau o’r dref, ac mi fydd modd cymryd plant sy’n iau na 16 o’u tai.
Bydd modd i swyddogion heddlu arestio unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio.
Daw’r ‘gorchymyn gwasgaru’ yn sgil achosion o bobol ifanc yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, yn achosi difrod, ac yn cerdded ar hyd toeon yng nghanol y dref.