Cynllun i helpu carcharorion gynilo arian fydd un o’r prosiectau niferus fydd yn elwa o fuddsoddiad o £844,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y swm yma yn cael ei rannu rhwng sawl grŵp dros ddwy flynedd, a’r nod yw helpu pobol sy’n cael trafferth i ymdopi’n ariannol.

Undebau Credyd – grwpiau sy’n benthyca arian, ond heb y bwriad o greu elw – fydd yn elwa o’r gronfa yma yn bennaf.

Yn eu plith mae undebau credyd o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Abertawe a Phowys.

“Defnyddiol”

“Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rôl bwysig y mae undebau credyd yn ei chwarae drwy helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu harian,” meddai’r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies.

“Mae eu gwasanaethau yn arbennig o ddefnyddiol i garcharorion, gan eu bod yn caniatáu iddyn nhw adael y carchar gyda chynilion a chyfrif undeb credyd.”