Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 63 oed o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod yn Abertawe.

Cafwyd hyd i’r ddynes 66 oed mewn tŷ yn Hill Street yn Abertawe ar 7 Ebrill.

Yn ôl yr heddlu roedd Derek Potter, 63, yn adnabod y ddynes.

Cafodd ei gyhuddo ddydd Iau (3 Mai) ac roedd disgwyl iddo fynd gerbron Ynadon Abertawe yn y pnawn.