Dim ond un Cyngor Sir yng Nghymru sydd gyda “thargedau hirdymor” er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni iddyn nhw holi pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â’u cynlluniau i gyrraedd targed y Llywodraeth.

Yn benodol, mae’n debyg y gwnaethon nhw holi os oedd ganddyn nhw dargedau ar gyfer 2025, 2030, 2035 a 2040 – Targed Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Conwy oedd yr unig sir a oedd gyda thargedau fesul pum mlynedd hyd at 2040, meddai’r ymgyrchwyr, gydag ambell gyngor yn darparu targedau hyd at 2020 neu 2022 yn unig.

Mae gan gynghorau dyletswydd gyfreithiol i lunio cynllun ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg – Cynlluniau Strategol mewn Addysg – ar gyfer cyfnod o 3 mlynedd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Cynlluniau

“Mae’n gwbl amlwg nad yw’r Cynlluniau Strategol mewn Addysg yn addas at eu diben,” meddai Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone.

“Dydyn nhw heb gyflawni ar y targedau cenedlaethol sydd wedi eu gosod, ac mae’r ymchwil rydyn ni wedi ei wneud yn amlygu’r ffaith nad ydyn nhw’n sicrhau bod cynllunio tymor hir yn digwydd ar lefel leol.

“Mae ymatebion y cynghorau’n ddiddorol achos ei fod yn amlwg bod y rhan fwyaf o siroedd heb ymateb i’r her o gyrraedd y miliwn o siaradwyr. Yn wir, mae rhai siroedd, megis Wrecsam, yn defnyddio ‘ymateb i’r galw’ fel esgus i beidio â gwneud mwy.”