Mae’r mwyafrif helaeth o yrwyr yn teimlo bod cyflwr heolydd y Deyrnas Unedig wedi gwaethygu dros y degawd diwethaf, yn ôl arolwg newydd.

Mae ffigyrau’r Gymdeithas Foduro (AA) yn dangos bod 88% o bobol yn credu hynny, tra bod 67% yn credu bod cyflwr heolydd wedi “dirywio cryn dipyn” tros yr un cyfnod.

Yn ogystal mi wnaeth 42% o yrwyr ddweud bod cyflwr eu strydoedd yn “wael” ym mis Mawrth eleni, o gymharu â 34% o bobol yn ystod yr un mis y llynedd.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yma, mi fyddai’n rhaid buddsoddi £9.3 biliwn yn awdurdodau lleol Cymru a Lloegr – yn ôl y Cynghrair Diwydiant Asffalt.

“Siarad gwag”

“Er gwaetha’r holl siarad gwag gan lywodraeth ganolog a lleol, does dim digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’n strydoedd,” meddai Llywydd AA, Edmund King.

“Mae cyflwr enbydus ar ein heolydd tyllog … Mae’r diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd lleol yn golygu bod ymdrechion awdurdodau’r priffyrdd yn ofer.”

Cafodd 17,500 o yrwyr eu holi ar gyfer arolwg yr AA.