Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, ar fin rhoi’r gorau i fod yn arweinydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.

Yng nghynhadledd flynyddol y gymdeithas yn Cosofo yr wythnos hon, fe fydd Meri Huws yn trosglwyddo’r gadeiryddiaeth i Gomisiynydd yr Iaith Iwerddon.

Mae Meri Huws wedi bod yn y swydd ers dwy flynedd, ac fe fydd ysgrifenyddiaeth y gymdeithas, sydd wedi bod yng ngofal swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ers 2015, yn cael ei drosglwyddo i Iwerddon hefyd.

Y gymdeithas

Fe gafodd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ei sefydlu yn 2013, gyda Meri Huws ymhlith ei sylfaenwyr.

Mae’n cynnwys comisiynwyr iaith o bob rhan o’r byd, gan gynnwys Kosovo, Iwerddon, Catalwnia, Gwlad y Basg, Fflandyrs, Sri Lanca, De Affrica a Chanada.

Nod y gymdeithas yw cefnogi a hybu hawliau ieithyddol ledled y byd, gan gefnogi gwaith comisiynwyr iaith fel bod modd iddyn nhw ymgyrraedd y safonau uchaf.

“Diwedd cyfnod”

“Yn ein gwaith o ddydd i ddydd, mae’n anochel ein bod ni’n edrych ar bethau yng nghyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol ein gwledydd ein hunain,” meddai Meri Huws. “Mae gallu manteisio ar bersbectif allanol wedi profi yn amhrisiadwy.

“Yn bersonol, rydw i wedi cael cyfle i gyfrannu i drafodaethau am ddeddfwriaeth iaith yng Ngogledd a Gweriniaeth Iwerddon, rhoi cyflwyniad i weinidogion Llywodraeth Kosovo am amlieithrwydd a thrafod y cynnig iaith rhagweithiol yn y maes iechyd gydag arweinwyr yng Nghanada…

“Byddaf nawr yn trosglwyddo’r gadeiryddiaeth i Rónán Ó Domhnaill, An Coimisinéir Teanga, Comisiynydd Iaith Iwerddon.

“Mae’n ddiwedd cyfnod, ond rwy’n sicr y bydd y Gymdeithas yn datblygu ymhellach fel corff ymarferol a dylanwadol dan ei arweiniad e.”

Y llynedd, fe gynhaliwyd cynhadledd y gymdeithas yng Nghymru.