Heddiw, fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod deiseb sy’n galw am wneud addysg Gymraeg yn ddewisol i blant â dyslecsia.

Mae’r ddeiseb wedi derbyn 81 o lofnodion ar y we – 50 yw’r lleiafswm i gael ei drafod yn y Cynulliad – a chafodd ei chyflwyno gan fam i blentyn â’r cyflwr.

Mae’r fam yn honni bod ysgrifennu a darllen Saesneg yn “her ddyddiol”, ac mae’n pryderu fod y Gymraeg yn sialens ychwanegol i’w mab. Yn ogystal, mae wedi ceisio tynnu ei mab allan o wersi Cymraeg.

“Mae’n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy’n byw yng Nghymru,” meddai’r ddeiseb. “Dylai Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn orfodol.”

Pwnc llosg

Fe fu Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad yn trafod deiseb debyg ‘Atal TGAU Cymraeg gorfodol’ y llynedd, ond fe gafodd yr alwad honno ei gwrthod.

Daeth y Gymraeg yn bwnc gorfodol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1,2 a 3 yn 1990; a naw mlynedd wedi hynny daeth yn bwnc gorfodol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4.