Mae cerddwr wedi marw yn dilyn damwain traffig ger Casnewydd ddoe.

Fe fu’r digwyddiad am 2yh ddoe (dydd Sul, Ebrill 29), pan gafodd person a oedd yn cerdded ar yr A48 i gyfeiriad y ddinas eu taro gan gar.

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi bod y person hwnnw wedi marw yn y fan a’r lle o’i anafiadau, ac mae ei deulu wedi’u hysbysu.

Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.