Mae’r heddlu wedi arestio dyn 18 oed ar ôl i yrrwr daro’i gar i mewn i bedwar o bobol yng Nghasnewydd fore heddiw.
Mae’r dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed drwy yrru’n beryglus yn dilyn y digwyddiad ar Heol Cambrian am 5.30 y bore.
Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro ar ddiwrnod marathon y ddinas.
Roedd y digwyddiad wedi achosi oedi cyn dechrau’r marathon.
Fe fu’r heddlu’n chwilio am ddyn croenddu oedd yn gyrru car Ford C Max glas. Fe wnaeth y gyrrwr ffoi wedi’r digwyddiad.
Cafwyd hyd i’r car wedi ei losgi ar Stryd Magwyr yn ddiweddarach.
Mae lle i gredu bod dwy ferch wedi cael anafiadau fydd yn newid eu bywydau.
Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.