Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan gerbyd yng Nghasnewydd ar ddiwrnod marathon y ddinas.

Mae’r digwyddiad wedi achosi oedi cyn dechrau’r marathon.

Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl y digwyddiad ar Heol Cambrian am 5.30 fore heddiw, ac mae’r heddlu’n chwilio am ddyn croenddu – o bosib yn ei ugeiniau – oedd yn gyrru car Ford C Max glas. Fe wnaeth y gyrrwr ffoi wedi’r digwyddiad.

Cafwyd hyd i’r car wedi ei losgi ar Stryd Magwyr yn ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod dwy ferch wedi cael anafiadau fydd yn newid eu bywydau.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.

Roedd disgwyl hyd at 6,000 o redwyr yn y ddinas ar y gyfer y ras.