Mae dau ddyn wedi eu carcharu yn dilyn cyfres o ladradau mewn siopau yng Ngwent.
Ar Fawrth 11, aeth Lee Bidmead ati i ladrata siop Spar ym Mhont-hir, Caerllion, gan fygwth staff gydag ar arf tanio ffug.
A gwnaeth yr un peth ar Fawrth 20 ym Mhorthsgiwed, gan chwistrellu petrol dros weithiwr.
Bellach mae Lee Bidmead wedi’i gael yn euog o ddau gyhuddiad o ladrata, a dau gyhuddiad o feddu ar arf tanio ffug. Bydd yn treulio 13 blynedd dan glo, gyda phedair ychwanegol dan drwydded.
Mi wnaeth Brian Butler ei gynorthwyo yn y ddau achos, ac mi fydd yn treulio chwe blynedd dan glo. Cafodd ei farnu’n euog o ddau gyhuddiad o ladrata.
Yn ôl y Ditectif Ringyll Matthew Edwards, a oedd ynghlwm â’r ymchwiliad i’r lladradau, roedd yr achosion yn “ddychrynllyd i bawb a chafodd eu heffeithio”.