Ni fydd Eluned Morgan yn cyhoeddi heddiw os yw am ymuno yn y ras i ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Roedd disgwyl cyhoeddiad gan AC Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei hetholaeth yn Noc Penfro heddiw.

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud nad yw wedi penderfynu eto os bydd yn ceisio olynu Carwyn Jones.

Yn hytrach, mae wedi sefydlu gwefan uniaith Saesneg, Beyond the Bubble, i annog pobol ledled Cymru i gynnig eu barn ar ba drywydd dylai’r Prif Weinidog nesaf fynd i wella’r wlad.

“Dw i am sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a bod eich safbwyntiau a’ch dyheadau yn helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol ein Cenedl,” meddai ar y wefan Saesneg.

“Mae’r gystadleuaeth i ethol Prif Weinidog newydd ac Arweinydd i’n Plaid Lafur yn rhoi’r cyfle unigryw i ni siarad am y ffordd y gallwn adeiladu Cymru well a llunio polisïau sy’n cael eu dylanwadu gan y bobol.”

“Gwarthus”

Mae’r ffaith fod gwefan Eluned Morgan yn uniaith Saesneg wedi cynddeiriogi Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n warthus,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Os nad yw Gweinidog y Gymraeg yn arddel y polisïau iaith gorau, beth yw ei diben? Ai dyma beth mae hi eisiau gwneud gyda’i deddf iaith wan newydd, ganiatáu mwy o wefannau uniaith Saesneg? Mae hi’n mynd ’mlaen ac ’mlaen am hybu a hyrwyddo yn lle rheoleiddio, ond dyw hi ddim hyd yn oed wedi perswadio hi ei hun i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn eironig oll, mae ei gweithredoedd hi yn profi unwaith eto bod angen deddfwriaeth gref.

“Prif ddiben deddf iaith arfaethedig Eluned Morgan yw dadreoleiddio: gwanhau hawliau iaith pobl er lles cyrff a chwmnïau cyfoethog. Dyw hi ddim yn cuddio hynny. Ym maes hawliau iechyd, mae hi wedi plygu i fuddiannau’r cyfoethog ar draul y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi wedi ffafrio buddiannau cwmnïau fferyllol a buddiannau grwpiau pwerus yn lle hawliau plant a dioddefwyr dimensia, pobl sydd heb lais na grym. Os yw Eluned Morgan yn dod yn Brif Weinidog, pryderwn y byddai’r dadreoleiddio a’r annhegwch yn wael, ie, i’r Gymraeg a’i defnyddwyr, ond hefyd i grwpiau eraill. A fyddai hi’n gwanhau hawliau eraill gweithwyr er budd cwmnïau mawrion? Mae marc cwestiwn mawr am ei gwerthoedd a’i haddasrwydd i fod yn Brif Weinidog felly.”