Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon am ymgais posib Gweinidog y Gymraeg i ddod yn Brif Weinidog Cymru.

Dydy Eluned Morgan heb gadarnhau ei bod yn ymuno a’r ras i olynu Carwyn Jones eto, ond mae disgwyl sylw ganddi am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn ddiweddarach y bore yma.

Mae hi’n un o’r sawl enw sydd wedi cael ei grybwyll a allai fod eisiau cymryd yr awenau pan fydd Carwyn Jones yn rhoi’r gorau i’r swydd yn yr hydref.

“Ffafrio’r cwmnïau?”

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai Aelod Cynulliad, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ffafrio’r cwmnïau mawr, yn hytrach na hawliau phobol a chymunedau.

“Prif ddiben deddf iaith arfaethedig Eluned Morgan yw dadreoleiddio: gwanhau hawliau iaith pobl er lles cyrff a chwmnïau cyfoethog,” meddai Heledd Gwyndaf, cadeirydd y mudiad.

“Dyw hi ddim yn cuddio hynny. Ym maes hawliau iechyd, mae hi wedi plygu i fuddiannau’r cyfoethog ar draul y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae hi wedi ffafrio buddiannau cwmnïau fferyllol a buddiannau grwpiau pwerus yn lle hawliau plant a dioddefwyr dementia, pobl sydd heb lais na grym.”

“Marc cwestiwn mawr am ei gwerthoedd”

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf : “Os yw Eluned Morgan yn dod yn Brif Weinidog, pryderwn y byddai’r dadreoleiddio a’r annhegwch yn wael, ie, i’r Gymraeg a’i defnyddwyr, ond hefyd i grwpiau eraill.

“A fyddai hi’n gwanhau hawliau gweithwyr eraill er budd cwmnïau mawrion? Mae marc cwestiwn mawr am ei gwerthoedd a’i haddasrwydd i fod yn Brif Weinidog felly.”

Mae’r Gweinidog wedi dweud yn y gorffennol y bydd Bil y Gymraeg yn ei gwneud yn haws i siaradwyr ddefnyddio’r iaith bob dydd.

Bydd Eluned Morgan yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â’i phenderfyniad   i ymgeisio i arwain y Blaid Lafur ai peidio cyn hanner dydd  yn ei hetholaeth yn Noc Penfro heddiw.