Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddynes 28 a aeth ar goll dros y penwythnos.

Cafodd Hollie Kerrell ei gweld diwethaf yn ei chartref yn Nhrefyclo am tua 10 o’r gloch bore dydd Sul a does neb wedi clywed ganddi ers hynny, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.

Prynhawn dydd Iau, dywedodd yr heddlu ei fod wedi arestio dyn 35 oed ar amheuaeth o’i llofruddio.

Rhai oriau yn ddiweddarach, cafwyd hyd i gorff a’r gred yw mai corff Hollie Kerrell yw hwnnw.

“Rydym yn tristáu i gadarnhau bod corff wedi cael ei ganfod wrth chwilio am Hollie Kerrell sydd wedi bod ar goll,” meddai’r Uwch-arolygydd, Jon Cummins.

“Mae ein meddyliau gyda’i theulu, sy’n cael cymorth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ar yr adeg ofnadwy o drist hon.

“Mae’r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn parhau yn y ddalfa er mwyn ei holi. Hoffwn sicrhau’r gymuned nad ydym yn edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Hollie.”

Mae gofyn i unrhyw un a all fod â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101, yn enwedig os oedd rhywun wedi gweld Hollie Kerrell wedi 5 o’r gloch y prynhawn, dydd Sadwrn, 21 Ebrill.