Mi fydd £1.4m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau gweithwyr yn y sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Cyllid ym Mae Caerdydd, Mark Drakeford, gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Ebrill 27) bod £1.4m yn mynd i gael ei fuddsoddi mewn cynllun hyfforddiant a fydd yn sicrhau bod y sector yn datblygu a chynyddu.

Fe fydd cynllun Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL), yn cael ei arwain gan Goleg Peiriannol Abertawe, ac fe fydd yn helpu dros 400 o weithwyr i ddatblygu sgiliau technegol newydd.

mae disgwyl i’r sgiliau hynny gael eu defnyddio wedyn mewn sectorau newydd, megis ynni a phŵer, gweithgynhyrchu clyfar, peirianneg deunyddiau, economi gylchol a thechnoleg cyrydu a haenau.

Fe fydd y cynllun hefyd yn cefnogi 60 o gwmnïau ledled Cymru, yn enwedig yn y gogledd, y gorllewin a chymoedd y de.

Y bwriad erbyn 2022 yw y bydd dros 800 o bobol wedi elwa ohono.

“Economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan weithlu Cymru’r sgiliau sydd eu hangen i sbarduno twf a chynhyrchiant,” meddai Mark Drakeford.

“Mae hyn yn enghraifft arall o ba mor bwysig ydyw i sicrhau bod Cymru yn cael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit, fel y gall buddsoddiadau yn y dyfodol barhau i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.”