Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi galw am adolygu deddfau sy’n “cyfyngu ar ryddid cefnogwyr pêl-droed”.

Fe ddaeth yr alwad gan Arfon Jones ar ffurf neges i’r Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed a’r gweinidog heddlua cysgodol, yr Aelod Seneddol, Louise Haigh.

Mae’n credu bod cefnogwyr pêl-droed yn cael eu trin fel “troseddwyr”, a bod cyfyngiadau llymach arnyn nhw na chefnogwyr chwaraeon eraill.

Ymhlith y cyfyngiadau mae’n rhestru mae “trafnidiaeth ddiogel”, sy’n gorfodi cefnogwyr i deithio i gemau pêl-droed mewn bysiau penodol.

A tharddiad hyn i gyd, meddai, deddfau “hen ffasiwn” a ddaeth yn sgil trychineb Hillsborough – lle bu farw 96 o bobol mewn gêm bêl droed, gyda’r cefnogwyr yn cael y bai.

“Ffug dystiolaeth” sydd wedi dylanwadu ar y deddfau yma, yn ôl y Comisiynydd.

“Annheg”

“Buaswn yn dadlau bod unrhyw ddeddfwriaeth sydd wedi’i gyflwyno ar sail ffug dystiolaeth yn annheg ac anghyfartal, a dylai gael ei adolygu,” meddai Arfon Jones yn ei neges.

“Dw i’n credu bod llawer o gefnogwyr wedi blino â chael eu trin fel troseddwyr am deithio a chefnogi digwyddiadau chwaraeon.”