Mae golwg360 yn deall bod Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu dileu swydd y Dirprwy Is-Ganghellor sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Ar adeg pan fo’r Coleg Ger y Lli yn gwneud toriadau ariannol, mae prifathro’r sefydliad wedi cyflwyno dogfen yn amlinellu sut mae’r brifysgol yn mynd ati i leihau nifer y Dirprwy Is-Gangellorion o bedwar i ddau – ac mae hynny’n cynnwys diddymu swydd o Dirprwy Is-Ganghellor y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol.

Ar hyn o bryd, y Dr Rhodri Llwyd Morgan sy’n llenwi’r swydd honno. Mae’n aelod o Grŵp Gweithredol y brifysgol, ac ef sy’n gyfrifol am brosiectau fel ail-agor Neuadd Gymraeg Pantycelyn ac adnewyddu adeilad yr Hen Goleg yn ganolfan dreftadaeth.

Mae hefyd yn gyfrifol am Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y brifysgol, ac mae pryder y gallai gael ei hisraddio o ganlyniad i ddileu’r rôl.

Dan y trefniadau newydd, bydd cyfrifoldeb dros y Gymraeg yn mynd i rôl newydd, sef Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr.

UMCA yn pryderu

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth [UMCA] yn pryderu y byddai dileu rôl y Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg yn dileu’r gynrychiolaeth Gymraeg o fewn tîm uwch-reoli y sefydliad.

Yn ôl UMCA, mae rôl y dirprwy is-ganghellor dros y Gymraeg yn rhoi statws i’r iaith ar y lefel uchaf, ac yn cryfhau profiad y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

“Mae’n bwysig bod gan y Brifysgol rhywun sy’n cynrychioli’r iaith Gymraeg. Byddai diddymu’r rôl yn diddymu’r gynrychiolaeth Gymraeg o fewn y tîm gweithredol uwch,” meddai Gwion Llwyd, llywydd presennol UMCA.

“… Yn amlwg, mae yna waith caled wedi cael ei wneud i ail-agor Pantycelyn ac mae’n bwysig, er mwyn sicrhau llwyddiant yr ail-agor, bod yna rhywun sy’n Ddirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg… mae’n bwysig bod yna rhywun yn cario ymlaen y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud.

“Ei rôl nhw yw sicrhau llwyddiant y Neuadd… mae’n haws i ni fel myfyrwyr gweld rhywun fel yna yn y tîm uwch-weithredol yn ein helpu ni i sicrhau llwyddiant.”

Mae Anna Wyn, llywydd nesaf UMCA, a fydd yn cymryd yr awenau oddi ar Gwion Llwyd ym mis Mehefin, o’r un farn.

“Mae o’n sicrhau bod rhywun yn uchel o fewn y brifysgol yn ein cymryd ni o ddifrif, yn cymryd pobol sy’n siarad Cymraeg o ddifrif,” meddai am rôl y dirprwy is-ganghellor.

“Os oes gennym ni broblem, rydyn ni’n gwybod gallwn ni droi at Rhodri Llwyd Morgan ac mi wneith o ein helpu ni yn y ffordd orau mae o’n gallu. O ddileu’r swydd, mi faswn i’n poeni bod yna neb o fewn y Brifysgol yn ein cymryd ni o ddifrif.”

Ymateb Prifysgol Aberystwyth 

“Mae hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn rhan annatod a holl bwysig o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac mae dyfnder ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws ystod o ddisgyblaethau yn dyst i hynny.

“Fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd a gyhoeddwyd fis Ebrill y llynedd, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion i ail-strwythuro ein uwch dîm reoli a fyddai, o’u derbyn, yn cynnwys lleihau nifer ein Dirprwy Is-Gangellorion o bedwar i ddau.

“Byddai hyrwyddo’r iaith a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn parhau yn flaenoriaethau allweddol i’r uwch dîm reoli ac fe fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ofynol ar gyfer o leiaf un o’r swyddi hyn.

“Ni chaiff unrhyw benderfyniadau terfynol eu gwneud tan ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.”