Mae enillydd Gwobr Arbennig gwyl y  Fedwen Lyfrau eleni yn dweud ei bod yn “eithaf pwysig” i awduron yng Nghymru gael eu hanrhydeddu, oherwydd bod llenydda’n “waith unig iawn”.

Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 70, mae Alan Llwyd yn dweud ei fod yn “falch” o dderbyn y wobr sy’n “cydnabod gwaith rhywun” am gyfrannu at fywyd y genedl.

“I mi, mae’n mater o rywbeth pwysig iawn,” meddai wrth golwg360. “Os nad oes gennych chi graidd llenyddol i fywyd cenedl, a hwnnw’n graidd cadarn iawn, wel mae’r iaith yn mynd yn wan yn sgil hynny.

“Mae’n rhaid i chi gael rhyw graidd solet o lenyddiaeth, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n fwy nag adloniant a difyrrwch. Mae o’n diffinio hanfod cenedl ac enaid cenedl, dw i’n meddwl.”

Cyfraniad Alan Llwyd

Mae’r mab fferm o Ben Llŷn wedi bod yn wyneb cyfarwydd ym maes Llenyddiaeth Gymraeg ers degawdau, a hynny fel bardd, sgriptiwr ac academydd.

Daeth i amlygrwydd fel bardd pan lwyddodd i gipio’r ‘dwbwl dwbwl’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y saithdegau, ac roedd yn un o sylfaenwyr Barddas yn 1976, ac yn olygydd ar gylchgrawn chwarterol y gymdeithas o’r cychwyn cyntaf tan 2011.

Bu hefyd yn gyfrifol am sgriptio’r ffilm Hedd Wyn yn 1992, ac mae’n awdur cofiannau i’r bardd o Drawsfynydd, ynghyd ag enwogion eraill megis Kate Roberts, R Williams Parry, Waldo a Gwenallt.

Ac yn ôl y dyn ei hun, mae’n “falch o bob dim” mae wedi’i gyflawni, ac mae’n disgwyl ymlaen i gyhoeddi rhagor o’i waith yn ystod y flwyddyn sydd i ddod…

Fe fydd Alan Llwyd yn cael ei anrhydeddu yng Ngŵyl Bedwen Lyfrau 2018, a fydd yn cael ei chynnal yn nhre’ Caerfyrddin rhwng Mai 9 a 12.