Mae dyn 35 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio Hollie Kerrell, 28 oed o Drefyclo ym Mhowys.

Does neb wedi ei gweld hi ers bore dydd Sul, pan adawodd ei chartref am oddeutu 10 o’r gloch.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wrth iddyn nhw holi dyn yn y ddalfa, gan ddweud bod ei arestio ef yn “ddatblygiad arwyddocaol” yn yr achos.

Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un welodd Hollie Kerrell ar ôl 5yp ddydd Sadwrn.

Mae hi’n 5’5” o daldra, o gorffolaeth ganolig a chanddi wallt brown tywyll a llygaid glas. Roedd hi’n gwisgo sgert ddu a chardigan du pan gafodd hi ei gweld ddiwethaf.