Bydd cantores glasurol o Gymru ymhlith y rhai fydd yn perfformio ym mhriodas Tywysog Harry a Meghan Markle fis nesaf.

Fe fydd Elin Manahan Thomas, ymghyd ag aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd ymhlith y gerddorfa fydd yn perfformio gyda’r gantores o Abertawe. Hefyd yn rhan o’r gerddorfa fydd aelodau Cerddorfa Siambr Lloegr a’r Philharmonia o dan arweiniad Christopher Warren-Green.

Bydd mab ieuengaf Tywysog Charles a’r actores Americanaidd yn priodi yng Nghapel San Siôr yn Windsor ddydd Sadwrn, Mai 19.

Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywed yn Saesneg: “Mae Elin Manahan Thomas wrth ei bodd o gael cadarnhau y bydd hi’n perfformio ym mhriodas Tywysog Harry a Meghan Markle yng Nghapel San Siôr ar ddydd Sadwrn 19 Mai.”

BREAKING: Elin Manahan Thomas will perform at the Royal Wedding in May!Elin Manahan Thomas is delighted to confirm she…

Posted by Elin Manahan Thomas on Tuesday, 24 April 2018

Ychwanegodd ar ei thudalen Twitter: “Rwy wrth fy modd o fod wedi cael gwahoddiad i ganu ar achlysur mor fawreddog. Mae bob amser yn fraint cael gwahoddiad i fod yn rhan o briodas, ac mae cael rhannu diwrnod mawr cwpl yn arbennig iawn. Pob lwc i bawb gyda’r paratoadau!”

Hefyd yn perfformio yn y briodas fydd Sheku Kanneh-Mason (soddgrwth), David Blackadder (trwmped), Karen Gibson a chôr Kingdom, a Chôr Capel San Siôr.