Mae dyn, 71, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ger Abertawe.
Tarodd y cerbydau yn erbyn ei gilydd yn ystod oriau mân y bore ddydd Mercher (Ebrill 25), ym mhentref Ynysforgan, ar gylchffordd ger Heol Llanllienwen.
Cafodd y dyn – gyrrwr y car Kia Carens arian – ei gludo i Ysbyty Treforys, ond bu farw yno.
Roedd merch, 17, hefyd yn y car ond chafodd hi ddim ei hanafu.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw dystion, neu unrhyw un a welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.