Mae band pres o Gwm Rhondda wedi cael eu coroni’n enillwyr Band Cymru 2018.

Dyma’r eildro i Fand y Cory ennill y gystadleuaeth ar gyfer bandiau pres, chwyth a jazz – nhw oedd enillwyr 2014 – ac mi fyddan nhw’n derbyn gwobr o £8,000.

Cafodd y rownd derfynol ei chynnal yn Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe, nos Sul (Ebrill 22), gyda thri band arall yn cystadlu am y wobr – sef Brass Beaumaris, Band BTM a Band Arian Llaneurgain.

A chafodd y perfformiadau eu darlledu yn fyw ar S4C gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Llwyd yn cyflwyno.

Deinameg “wych”

“Roedd o leiaf tri o’r bandiau yn haeddu ennill y gystadleuaeth,” meddai Wyn Davies, un o feirniaid y gystadleuaeth.

“Ond, oherwydd eu techneg ragorol ac oherwydd eu bod yn gwneud y pethau  sylfaenol mor dda a’u deinameg mor wych, Band y Cory oedd yn haeddu’r brif wobr.”