Fe ddylai olynydd i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gael ei ddewis “o fewn yr wythnosau nesaf, nid misoedd,” meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae arweinydd y blaid, Andrew RT Davies, yn dweud bod Cymru’n wynebu cyfnod o  “arweinyddiaeth ddigyfeiriad” pe bai’r penderfyniad ynglŷn â phwy fydd yn olynu Carwyn Jones yn cael ei ohirio tan fis Rhagfyr.

Fe gyhoeddodd Carwyn Jones yn annisgwyl yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno dros y penwythnos y byddai’n rhoi’r gorau i’w swydd yn yr hydref, er mwyn sicrhau y bydd Prif Weinidog newydd yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond wrth i gwestiynau godi ynglŷn â system bleidleisio’r Blaid Lafur, mae Andrew RT Davies yn dweud y bydd yr oedi’n achosi “gwacter wrth galon gwleidyddiaeth Cymru”, a fydd yn y pendraw yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus y wlad.

Angen rhoi’r “maen i’r wal”

“Mae angen iddyn nhw roi’r maen i’r wal, er budd ein gwasanaethau cyhoeddus a hyder y cyhoedd mewn datganoli,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd ar gynnydd, mae gyda ni argyfwng cyflogi athrawon, ac mae cyflogau ar eu hisaf nag yn unrhyw fan arall yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’n hollol annerbyniol bod y wlad yn cael ei gadael mewn gwagle tan ddiwedd y flwyddyn.”

“Dyw mwyafrif y cyhoedd ddim yn poeni sut fydd olynydd i Carwyn yn cael ei ddewis, ond mae angen inni weld y Prif Weinidog newydd gyda mandad i fynd â Chymru ymlaen o fewn yr wythnosau nesaf – nid misoedd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.