Mae dros 3,700 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau i israddio ysbyty yn Sir Benfro.

Daw hyn wedi i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi eu bod yn ystyried tri opsiwn ar gyfer dyfodol eu hysbytai yng ngorllewin Cymru.

Ym mhob un o’r tri opsiwn mi fydd Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn colli’i statws yn ysbyty cyffredinol, ac yn troi’n ysbyty cymunedol ar gyfer man anafiadau.

Hefyd, dan y cynlluniau mi fyddai ysbyty newydd yn cael ei adeiladu ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, fydd yn derbyn achosion brys.

Ond yn ôl sefydlwyr y ddeiseb, mae’r cynlluniau yn “hollol annerbyniol” oherwydd mi fyddai cleifion yn gorfod treulio “hyd at awr” yn teithio yno am wasanaeth.

“Peryglu ein babanod”

“Ni allwn adael i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda gymryd gwasanaeth gorau’r sir, wrthym ni,”  meddai’r ddeiseb.

“Maen nhw’n barod wedi cymryd ein Huned Gofal Arbennig i Fabanod, ein gwasanaeth mamolaeth dan arweinyddiaeth ymgynghorydd, a’n gofal pediatrig 24 awr.

“Mae hyn yn peryglu ein babanod a’n plant. Ac yn awr maen nhw’n mynd i gymryd beth sy’n weddill. Plîs, peidiwch adael i hyn ddigwydd.”

Ymgynghori

Y mis nesaf, mi fydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnal cyfres o sesiynau yng ngorllewin Cymru er mwyn trafod y cynigion â’r cyhoedd.

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd: “Rydym yn ymgynghori ar gynigion i newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol fel eu bod yn diwallu anghenion y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ac felly rydym am i bawb gymryd rhan ac i ddweud eu dweud.

“Deallwn y teimladau cryfion ac angerddol am y Gwasanaeth Iechyd o fewn ein cymunedau lleol ac rydym am bwysleisio nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto; mae’n hanfodol bod pobl yn cymryd rhan ac yn trafod ein cynigion er mwyn helpu i lunio ac hysbysu’r drafodaeth.

“Rydym yn annog pob un i ddarllen ein hadnoddau neu dod i ddigwyddiad a llenwi holiadur www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd. Byddwn hefyd yn cynnwys unrhyw ddeiseb yn ein dadansoddiad.”

Mae’r corff yn dweud eu bod yn wynebu heriau “sylweddol iawn” sy’n bennaf yn gysylltiedig â demograffeg gorllewin Cymru – poblogaeth hŷn a gwledig.

A’u gobaith yw y bydd y newidiadau’n gwella’u gallu i ddenu gweithwyr, yn lleihau amseroedd aros, ac yn golygu y bydd mwy o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol.

Bydd y digwyddiad cyntaf rhwng 2pm a 7pm yn Y Neuadd Fawr, Neuadd Y Dref, Aberteifi SA43 1JL ar ddydd Gwener 4 Mai.