Mi fydd bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru yn cael ei hymestyn ar gyfer y rheiny sy’n cychwyn astudio ym mis Medi 2019, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.

Fe gafodd y fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd perthynol cymwys ei dileu yn Lloegr yn 2017.

Ond yng Nghymru, fe fydd y pecyn bwrsari yn parhau i’r rheiny sy’n cychwyn astudio yn 2019, a hynny ar yr amod eu bod yn ymrwymo o flaen llaw i weithio yn y wlad am ddwy flynedd ar ôl graddio.

Yn ôl y ffigyrau, o’r 2,180 o fyfyrwyr a ymgeisiodd am fwrsariaeth yn 2017/18, dim ond 3% a wrthododd weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Mae hynny’n golygu bod mwyafrif y myfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn aros i weithio yn y wlad ar ôl eu hastudiaethau.

“Gwerthfawrogi ein gweithlu”

“Myfyrwyr gofal iechyd yw dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Vaughan Gething.

“Dyna pam rydyn ni, yn wahanol i Loegr, yn parhau i’w cefnogi yn ystod eu hastudiaethau yn gyfnewid am ymrwymiad i weithio yng Nghymru.

“Mae hyn yn arwydd clir ein bod yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal iechyd, ac yn dangos ein hymrwymiad at ddyfodol ein Gwasanaeth Iechyd.”