Fe fydd dyn o Ganada yn ymddangos gerbron llys heddiw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nyffryn Ogwen dros y penwythnos.

Fe gafodd Dean Martin Howard, 26 oed, o Vancouver ei arestio wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar y A5 am tua 4:15yp ddydd Sadwrn (Ebrill 21).

Ers hynny, mae wedi’i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw (dydd Llun, Ebrill 23).

Mae gyrrwr beic modur, 47 oed, a gafodd ei gludo’n syth i’r ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad, yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.